Yr Hobyd (The Hobbit in Welsh)
312
Pagini
2024
An
Paperback
Copertă
Descriere
(Welsh Translation of J.R.R. Tolkien's The Hobbit by Melin Bapur Books. Licenced by the Tolkien Estate)
(Welsh Translation of J.R.R. Tolkien's The Hobbit by Melin Bapur Books. Licenced by the Tolkien Estate)
Mewn twll yn y ddaear trigai hobyd...
Hobyd yw Bilbo Baglan sy'n mwynhau bywyd cyfforddus, di-uchelgais, a phrin mae'n teithio ymhellach na phantri ei hobyd-dwll ym Mhen-y-Bag. Ond mae ei fywyd cysurus yn dod i ben un diwrnod pan mae'r dewin, Gandalff, a chwmni o dri chorrach ar ddeg yn ymddangos yn annisgwyl ar garreg ei ddrws i'w gipio ymaith ar daith 'yno ac yn ôl'. Mae cynllun ar droed, sef cyrch i gipio trysor Smawg, draig enfawr a pheryglus iawn.
Mae Llyfrau Melin Bapur yn falch iawn i gyflwyno Yr Hobyd, cyfieithiad i'r Gymraeg o The Hobbit, clasur ffantasi J.R.R. Tolkien am arwyr, dreigiau, hud a lledrith a lladrad. Dyma'r cyhoeddiad cyntaf o unrhyw waith gan J.R.R. Tolkien yn y Gymraeg, ac mae'r cyfieithiad gan Adam Pearce, sydd wedi cyfieithu gwaith Daniel Owen, T. Gwynn Jones ac H.G. Wells, wedi'i lunio'n dilyn cyfarwyddiadau penodol J.R.R. Tolkien i gyfieithwyr, a dan drwydded swyddogol i ystad yr awdur.
Gyda darluniau gwreiddiol J.R.R. Tolkien a fersiynau Cymraeg newydd o'r mapiau yn y nofel wreiddiol.
Conectează-te pentru a lăsa o recenzie
Nicio recenzie încă
Ai citit cartea? Fii primul care lasă o recenzie!